Isaiah 61

Blwyddyn ffafr yr Arglwydd

1Mae Ysbryd fy Meistr, yr Arglwydd, arna i,
am fod yr Arglwydd wedi fy eneinio i'w wasanaethu.
Mae wedi fy anfon i gyhoeddi
newyddion da i'r tlodion,
i drin briwiau y rhai sydd wedi torri eu calonnau,
a chyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid,
ac i ollwng carcharorion yn rhydd;
2i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr Arglwydd yma,
a'r diwrnod pan fydd Duw yn dial;
i gysuro'r rhai sy'n galaru –
3ac i roi i alarwyr Seion
dwrban ar eu pennau yn lle lludw,
ac olew llawenydd yn lle galar,
mantell mawl yn lle ysbryd anobaith.
Byddan nhw'n cael eu galw yn goed hardd,
wedi eu plannu gan yr Arglwydd i arddangos ei ysblander.
4Byddan nhw'n ailadeiladu'r hen hen adfeilion,
yn codi lleoedd oedd wedi eu dinistrio,
ac yn adfer trefi oedd wedi eu difa
ac heb neb yn byw ynddyn nhw ers cenedlaethau.
5Bydd dieithriaid yn gofalu am dy ddefaid di,
ac estroniaid yn aredig y tir ac yn trin y coed gwinwydd.
6Byddwch chi'n cael eich galw yn "Offeiriaid yr Arglwydd",
"Gweision Duw" fydd y teitl arnoch chi.
Byddwch chi'n bwydo ar gyfoeth y cenhedloedd
ac yn mwynhau eu holl drysorau nhw.
7Yn lle'r cywilydd byddwch chi'n derbyn siâr ddwbl,
ac yn lle'r gwarth byddwch chi'n dathlu yn eich etifeddiaeth.
Felly, byddan nhw'n etifeddu siâr ddwbl yn eu tir,
ac yn profi llawenydd fydd yn para am byth.
8Fi ydy'r Arglwydd; dw i'n caru cyfiawnder,
ac yn casáu gweld lladrata'r offrwm sydd i'w losgi.
Bydda i'n siŵr o roi eu gwobr iddyn nhw,
a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth.
9Bydd eu plant yn adnabyddus ymhlith y cenhedloedd,
a'u disgynyddion ymhlith y bobloedd.
Bydd pawb sy'n eu gweld nhw yn cydnabod
mai nhw ydy'r rhai mae'r Arglwydd wedi eu bendithio.
10Mae'r Arglwydd yn fy ngwneud i mor llawen,
ac mae fy Nuw yn fy ngwefreiddio i.
Mae e wedi fy ngwisgo ag achubiaeth
a rhoi cyfiawnder yn fantell o'm cwmpas.
Dw i fel priodfab yn gwisgo twrban hardd,
neu briodferch wedi ei haddurno â'i thlysau.
11Fel mae planhigion yn tyfu o'r ddaear,
a ffrwythau'n tyfu yn yr ardd,
bydd fy Meistr, yr Arglwydd,
yn gwneud i gyfiawnder a moliant
dyfu yng ngŵydd y cenhedloedd i gyd.
Copyright information for CYM